Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 12 Gorffennaf
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4305
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd y 4 cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.37
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw'r goblygiadau i Gymru yn dilyn y penderfyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal gwaed halogedig?
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith (atebwyd gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth):
Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y swyddi a gaiff eu colli o ganlyniad i'r penderfyniad i gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru?
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yng Coilcolor yng Nghasnewydd?
Dechreuodd yr eitem am 15.18
Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad ar Gyfeillion Rhaeadr Aberdulais, grŵp elusennol a ddathlodd 30 mlynedd ers ei sefydlu yn ddiweddar.
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar 'Gôr Mawr Caradog': buddugoliaeth Undeb Corawl De Cymru yng Nghwpan Her y Palas Grisial ar 10 Gorffennaf 1873.
Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad i nodi 50 mlynedd ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1967.
Dechreuodd yr eitem am 15.23
NDM6365 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a
2. Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6348
David Melding (Canol De Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol;
2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid;
3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru;
4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
9 |
0 |
36 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.46
NDM6362 David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi deiseb P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru sydd wedi derbyn 5,383 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Dechreuodd yr eitem am 17.29
NDM6363 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cofio Srebrenica
Daeth y cyfarfod i ben am 17.51
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017